Rhif y Ddeiseb: P-06-1435

Teitl y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith

Geiriad y ddeiseb:  

Mae canser yr ysgyfaint yn cymryd 1,800 o fywydau bob blwyddyn, mwy nag unrhyw ganser arall yng Nghymru.

Mae’n rhaid i hyn newid.

Gallwn wneud pethau i leihau’r effaith hon. Un o’r rhain yw sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu, a fyddai’n gwahodd pobl 55-74 oed i gael eu sgrinio os oes ganddynt risg uchel o ganser yr ysgyfaint.

Gall y sgrinio hwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach: a gall achub bywydau rhag canser yr ysgyfaint.

Drwy gymryd 2 funud i lofnodi, gallwch gynorthwyo galwadau ar Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi’r sgrinio hwn ar waith yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae bron i hanner yr achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod ar y cam hwyraf posibl. Mae gormod yn marw o ganser yr ysgyfaint am y rheswm hwn.

Drwy sgrinio’r rhai sydd â’r risg uchaf, gallwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynt: pan fydd y cyfraddau goroesi ar eu huchaf.

Gwyddom fod hyn yn gweithio, gan fod gwerthusiad o Wiriadau Iechyd yr Ysgyfaint wedi’u Targedu yn Lloegr (rhaglen beilot) wedi gweld:

- 76% o achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod yn gynnar.

Y llynedd, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU fod holl wledydd y DU yn sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu, ynghyd â darparu cymorth rhoi’r gorau i ysmygu. Mae'r sgrinio hwn ar gyfer pobl 55-74 oed heb symptomau, sydd â risg uchel o ganser yr ysgyfaint (y rhai sydd â hanes o ysmygu). Yn anffodus, dim ond un wlad yn y DU (Lloegr) sydd wedi ymrwymo i gyflwyno hyn yn genedlaethol. Mae’n rhaid i hyn newid.

Mae canser yr ysgyfaint yn achosi niwed mawr i Gymru. Gall sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu helpu i leihau'r niwed hwn, gan roi amser gwerthfawr i fwy o bobl gyda theulu a ffrindiau.

 


1.        Cefndir

Canser yr ysgyfaint yw'r prif achos marwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser ledled y byd. Yn 2022, roedd 1,810 o farwolaethau oherwydd canser yr ysgyfaint yng Nghymru. Yn aml caiff ei ddiagnosio’n hwyr pan fydd yr opsiynau triniaeth yn gyfyngedig. Ysmygu yw achos mwyaf cyffredin canser yr ysgyfaint.

Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn fwy tebygol o ddatblygu canser yr ysgyfaint. Mae adroddiad gan Tenovus Gofal Canser yn nodi’r anghydraddoldebau o ran mynychder, diagnosis a marwolaethau canser yr ysgyfaint yng Nghymru:

Llun agos o boster  Disgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig

Mae dulliau sgrinio yn y DU yn seiliedig ar gyngor gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) (mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn cael cyngor gan Bwyllgor Sgrinio’r Alban, ac mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cael cyngor gan Bwyllgor Sgrinio Gogledd Iwerddon).

Dywed UKNSC fod sgrinio wedi'i dargedu ar gyfer canser yr ysgyfaint yn cael ei argymell ar gyfer pobl rhwng 55 a 74 oed y nodwyd eu bod mewn perygl mawr o gael canser yr ysgyfaint. Yn 2022, argymhellodd y dylai pedair gwlad y DU symud tuag at sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu, gan ddarparu gwasanaeth integredig ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu. Dywedodd fod y rhaglen Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint wedi'u Targedu (TLHC) yn fan cychwyn ymarferol ac effeithiol ar gyfer gweithredu yn Lloegr.

Argymhellodd UKNSC y dylid sefydlu grŵp gorchwyl sgrinio canser yr ysgyfaint i helpu o ran:

§  mireinio'r argymhelliad;

§  mynd i’r afael â heriau gweithredu;

§  pennu’r protocolau a’r llwybr gorau posibl ar gyfer sgrinio ledled y DU.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaeth Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad yr UKNSC ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu mewn egwyddor, a’i bod yn ystyried sut y dylid cyflwyno hyn yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer rhaglen genedlaethol i Gymru ac rydym yn awyddus i ddysgu o ganfyddiadau’r cynllun peilot gweithredol sydd i fod i ddechrau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eleni. Wrth fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen, rydym yn dymuno clywed gan bobl Cymru, elusennau a’r holl weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol a meysydd gwasanaeth perthnasol. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Alban a Lloegr i nodi’r llwybr delfrydol, sydd eto i’w benderfynu.  

Nododd y Gweinidog hefyd fod yr UKNSC yn argymell integreiddio sgrinio â gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.

Wrth i’r rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu ddatblygu, rydym yn bwriadu sicrhau bod ein gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu wedi’u hintegreiddio’n llawn â’r rhaglen sgrinio fel y gallwn helpu mwy o ysmygwyr yng Nghymru i roi’r gorau iddi.

Yn ei hymateb i’r Pwyllgor Deisebau (3 Gorffennaf 2024), cadarnhaodd Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod grŵp gorchwyl y DU wedi’i sefydlu a bod pedair gwlad y DU yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a dysg am sut y ffordd orau o weithredu rhaglen sgrinio. Mae hi’n nodi nad oes yr un o wledydd y DU wedi rhoi rhaglen sgrinio’r ysgyfaint ar waith hyd yma, a’u bod i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i ganfod y model cyflawni gorau posibl.

Mae'r ymateb hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghymru. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith cwmpasu i bennu gwybodaeth sylfaenol am yr amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu rhaglen yng Nghymru, gan gynnwys y gofynion adnoddau a gweithlu a'r effeithiau posibl ar wasanaethau'r bwrdd iechyd. Bydd angen cwblhau'r gwaith hwn cyn y gellir sefydlu amserlen gweithredu. Mae cam cyntaf y gwaith cwmpasu wedi dechrau, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn hydref 2025. Dylai'r gwerthusiad o beilot sgrinio'r ysgyfaint Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd fod wedi dod i ben erbyn hynny, gan ddarparu dysgu gwerthfawr.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.